![]() | |
Enghraifft o: | new religious movement, sefydliad crefyddol, Charismatic Christianity ![]() |
---|---|
Crefydd | Religious pluralism ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1 Mai 1954 ![]() |
Sylfaenydd | Sun Myung Moon ![]() |
Rhagflaenydd | Holy Spirit Association for the Unification of World Christianity ![]() |
Isgwmni/au | Unification Church of the United States, Family Peace Association ![]() |
Ffurf gyfreithiol | religious corporation ![]() |
Pencadlys | Gapyeong ![]() |
Gwladwriaeth | De Corea, Unol Daleithiau America, Japan ![]() |
Rhanbarth | Manhattan ![]() |
Gwefan | https://familyfed.org/, http://ffwpu.jp/ ![]() |
![]() |
Mudiad crefyddol newydd yw Cymdeithas yr Ysbryd Glân er Uniad Cristnogaeth Fyd-eang (Saesneg: The Holy Spirit Association for the Unification of World Christianity) neu Eglwys yr Uniad a sefydlwyd yn Ne Corea ym 1954 gan Sun Myung Moon. Mae'r eglwys yn weithgar mewn mwyafrif o wledydd y byd, ond nid oes amcan sicr o nifer ei dilynwyr.[1][2][3][4][5] Mae credoau Eglwys yr Uniad, a amlinellir yn y Divine Principle, yn seiliedig ar y Beibl. Mae'r eglwys yn enwog am ei seremonïau priodas torfol. Gelwir aelodau'r eglwys yn aml yn "Moonies", ond ystyrir hwn yn derm difrïol ganddynt.