![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 770 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0133°N 4.7089°W ![]() |
Cod SYG | W04000939 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref a chymuned yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Eglwyswrw.[1] Fe'i lleolir ar y ffordd A487 tua 6 milltir i'r de o Aberteifi.
Llifa Afon Gafren, ffrwd sy'n llifo i Afon Nyfer gerllaw, drwy'r pentref. Milltir a hanner i'r gorllewin ceir Castell Henllys, bryngaer fechan o Oes yr Haearn. Henllys oedd cartref hanesyddol George Owen. Ar un adeg cynhelid Ffair Feugan yma. Meugan yw sant y cwmwd. Dywed Wade Evans fod Meugan yn debygol o fod yn ddisgybl i Fartin, am fod Ffair Feugan yn cael ei chynnal ar y Llun ar ôl Gwyn Fartin. Daw'r comedïwr Steffan Evans o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]