Eira

Eira
Enghraifft o:math o ffenomen meteorolegol Edit this on Wikidata
Mathdyodiad, deunydd Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn Edit this on Wikidata
Deunyddgrisial iâ, aer Edit this on Wikidata
Yn cynnwyspluen eira Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Eira ar wyneb y ddaear yn ôl treigl y tymhorau.

Ffurfir eira (hefyd: 'eiry', 'ôd' neu 'nyf') pan fo gwlybaniaeth yn yr awyr yn troi'n grisialau rhew. Dan rai amgylchiadau, gellir cael eirlaw, sef eira yn gymysg â glaw, neu gesair (cenllysg), sef glaw wedi rhewi.

Fel rheol ceir eira yn y rhannau oeraf o'r byd, yn y gogledd ac yn y de. Yn nes at y cyhydedd, ni cheir eira fel rheol, ond ceir eira ar fynyddoedd uchel e.e. ar fynydd Kilimanjaro yn Tansanïa ac yn yr Andes yn Ne America. Ceir nifer o ddywediadau ar lafar am eira gan gynnwys 'eira mân, eira mawr' a cheir llawer o farddoniaeth amdano gan gynnwys Dafydd ap Gwilym:

Ni chysgaf, nid af o dŷ
Ym mhoen ydd wyf am hynny...

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne