![]() Eisteddfa Gurig ac Afon Tarenig | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4°N 3.8°W ![]() |
![]() | |
Pentref gwledig bychan yng Ngheredigion, Cymru, yw Eisteddfa Gurig. Saif bron ar y ffin rhwng Ceredigion â Phowys. Mae ar ffordd yr A44 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r gorllewin a Rhaeadr Gwy i'r dwyrain. Saif bron ar y ffin rhwng Ceredigion â Phowys. Fe'i lleolir ar y bwlch ar y ffordd honno gyda bryniau Pumlumon i'r gogledd. Rhed Afon Tarenig trwy Eisteddfa Gurig i gyfeiriad y dwyrain i ymuno yn Afon Gwy yn is i lawr y cwm.
Enwir Eisteddfa Gurig ar ôl Sant Curig. Dywedir ei fod yn mynd yno i fyfyrio o'i glas yn Llangurig, 8 milltir i lawr y lôn i'r dwyrain.
Mae Eisteddfa Gurig yn fan poblogaidd gan gerddwyr ar gyfer cychwyn am gopa Pumlumon, sydd 2 filltir i ffwrdd. Ceir adfeilion sawl cloddfa plwm yn yr ardal.
Saif "Craig Elvis" ger y pentref.