Eko Eko Azarak

Brawddeg agoriadol o siant Wicaidd yw Eko Eko Azarak. Fe'i casglwyd fel y mae ar hyn o bryd gan Gerald Gardner, a welir yn sylfaenydd Wica fel crefydd gyfoes, wedi'i threfnu. Yn y testun a roddwyd gan Gardner, ymddengys yn nefod Samhain, fel y dilynol:

Eko, eko, Azarak
Eko, eko, Zomelak
Bazabi lacha bachabe
Lamac cahi achababe
Karrellyos
Lamac lamac Bachalyas
Cabahagy sabalyos
Baryolos
Lagoz atha cabyolas
Samahac atha famolas
Hurrahya![1]

Cyhoeddodd Gardner ei fersiwn ei hun o'r siant hefyd yn ei nofel, High Magic's Aid. Mae fersiynau eraill yn ychwanegu enwau duwiau a duwiesau (megis Cernunnos ac Aradia)[2] i Eko, eko fel symbol o barch.

  1. Gerald Gardner, Llyfr y Cysgodion Gardneraidd, Golygiad 1949
  2. "Lady Sheba", Llyfr y Cysgodion (Llewellyn, 1971; ail-argraffiad. 2002. ISBN 0-87542-075-3)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne