Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 73,706 |
Gefeilldref/i | Bourg-en-Bresse |
Daearyddiaeth | |
Sir | El Kef |
Gwlad | Tiwnisia |
Uwch y môr | 780 metr |
Cyfesurynnau | 36.17°N 8.7°E |
Cod post | 7100 |
Mae El Kef neu El-Kef (Arabeg: الكاف, Ffrangeg: Le Kef) yn ddinas hynafol yn Nhiwnisia a phrifddinas y dalaith o'r un enw.
Lleolir El Kef ("Y Graig" yn Arabeg) yng ngogledd-orllewin y wlad, 175 km i'r gorllewin o'r brifddinas Tiwnis a 40 km i'r dwyrain o'r ffin ag Algeria. Ers dyddiau'r Henfyd, El Kef yw prif ganolfan yr Haut-Tell a gogledd-orllewin Tiwnisia, gan fwynhau safle hyd yn ddiweddar iawn o fod yn ganolfan wleidyddol, crefyddol a milwrol i'r rhanbarth. Ar uchder o 780m ar ben ei graig drawiadol, El Kef yw tref uchaf y wlad o bell ffordd.
Rhennir y ddinas yn ddau délégation (cyngor lleol), sef Dwyrain Kef a Gorllewin Kef. Mae arwynebedd y dref yn 2500 hectar gyda 45 hectar o fewn muriau hynafol y medina. Mae 45,191 o bobl yn byw yno (cyfrifiad 2004).
Dominyddir El Kef ("Kef" i'r bobl leol) gan y kasbah (caer) nerthol ar gopa ysgwydd greigiog uchel sy'n ymestyn allan o lethrau deheuol Jebel Dir (1084m). Mae'r mynydd hwnnw yn ei dro yn tra-arglwyddiaethu ar y gwastadedd uchel o'i gwmpas ac yn olygfa drawiadol.
Mae strydoedd cul y medina, a dyfodd yng nghysgod yn kasbah, yn cynnwys sawl adeilad hanesyddol, e.e. Y Mosg Mawr, Mosg Sidi Boumakhlouf a Tourbet Ali Turki (beddrod sylfaenydd llinach yr Husseiniaid a reolodd Tiwnisia am 250 mlynedd hyd ei hannibyniaeth yn 1957), a synagog El-Ghriba. Yn ogystal ceir eglwys hynafol Sant Pedr a Sant Paul, sy'n dyddio i'r 4g.