Math | municipality of Tunisia ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 50,611 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Mahdia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 35.3°N 10.72°E ![]() |
Cod post | 5160 ![]() |
![]() | |
Mae El Jem neu El Djem (arabeg: الجم) yn ddinas yn Nhiwnisia a leolir yng ngogledd-orllewin canolbarth y wlad yn ardal y Sahel. Mae hi'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Sousse i'r gogledd a Sfax i'r de ac ychydig dros 40 km o dref Mahdia ar yr arfordir i'r dwyrain.
Yn weinyddol mae hi'n rhan o dalaith Mahdia, ac yn ddinas gyda phoblogaeth o 18,302 o bobl.
Tyfodd El Jem ar safle dinas hynafol Thysdrus, ac mae'n enwog am ei amffitheatr, y drydedd mwyaf yn yr Ymerodraeth Rufeinig (yn dal mwy na 30 000 o wylwyr) ar ôl y Colosseum yn Rhufain (45 000) ac amffitheatr Capua.