Enghraifft o: | cantref ![]() |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn Hanes Cymru gan John Davies) | |
Roedd Elfael yn gantref yn hen ranbarth Rhwng Gwy a Hafren yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru, ar y ffin â Lloegr. Roedd yn gorwedd mewn ardal ar y ffin rhwng teyrnas Powys i'r gogledd a theyrnas Brycheiniog i'r de. Rhed Afon Gwy hyd ymyl ogleddol y cantref.
Roedd y cantref yn ffinio â Swydd Henffordd yn Lloegr i'r dwyrain, Brycheiniog i'r de, cantref Buellt i'r gorllewin, a Maelienydd a chwmwd bychan Llwythyfnwg i'r gogledd. Ardal o fryniau niferus a fuasai'n goediog ac anghysbell yn yr Oesoedd Canol oedd Elfael. Ar ryw bwynt yn yr Oesoedd Canol cafodd ei rhannu yn ddau gwmwd, sef
Canolfan grefyddol ac eglwysig Elfael oedd Glascwm, lle sefydlwyd clas gan Dewi Sant neu un o'i ddisgyblion.