Enghraifft o: | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, ras, speed skating competition |
---|---|
Math | marathon speed skating |
Dechrau/Sefydlu | 2 Ionawr 1909 |
Lleoliad | Fryslân |
Rhanbarth | Fryslân |
Gwefan | https://www.elfstedentocht.frl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Elfstedentocht (Iseldireg [ɛl(ə)fˈsteːdə(n)tɔxt];), neu Alvestêdetocht ([ɔlvəˈstɛːdətɔχt]) yn Ffrisieg, sy'n golygu "Taith yr un ddinas ar ddeg," yn ras sglefrio iâ i gystadleuwyr gydag esgidiau sglefrio. Cynhelir y ras ar gamlesi yn Fryslân, ardal yng ngogledd yr Iseldiroedd. Mae llwybr y ras yn mynd trwy un ar ddeg o drefi ac mae bron i 200 cilomedr o hyd. Gellir ei chynnal adeg y gaeaf yn unig pan fo'r camlesi wedi rhewi i ddigon o ddyfnder o rew i'w gwneud yn ddiogel i sglefrio arnynt. Dyma'r gylchdaith sglefrio fwyaf yn y byd.[1]