Elfyn Evans | |
---|---|
Ganwyd | Elfyn Rhys Evans 28 Rhagfyr 1988 Dolgellau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gyrrwr rali |
Tad | Gwyndaf Evans |
Gwefan | https://www.elfynevans.com/ |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrrwr rali o Gymru yw Elfyn Rhys Evans (ganwyd 28 Rhagfyr 1988 yn Nolgellau). Elfyn yw'r Cymro cyntaf erioed i ennill rownd cyfan o Bencampwriaeth Ralio'r Byd, pan gurodd Bencampwr y Byd yn Hydref 2017. Yn fab i gyn-yrrwr cystadleuaeth rali'r byd (WRC) Gwyndaf Evans, cychwynodd Elfyn Evans ei yrfa ralio yn 2007. Enillodd academi FIA WRC yn 2012, yn ogystal â theitl R2 Pencampwriaeth Rali Prydain a thlws UK Fiesta Sport. Daeth yn 5ed yn Rali Cymru GB yn 2014[1]