Elissa | |
---|---|
Ganwyd | إليسار زكريّا خوري 27 Hydref 1971 Deir Al-Ahmar |
Label recordio | EMI, Rotana Music Group, Universal Music Group |
Dinasyddiaeth | Libanus, Yr Aifft |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth y byd, cerddoriaeth Arabaidd |
Gwobr/au | Gwobrau Cerddoriaeth Byd |
Cantores Arabeg o'r Libanus yw Elissar Zakaria Khoury (Arabeg: إليسار زكريا خوري) (ganwyd 27 Hydref 1972 yn Deir el Ahmar, Libanus), a adnabyddir fel Elissa (Arabeg: إليسا). Mae hi wedi ennill sawl gwobr ryngwladol. Mae hi'n un o'r cantorion benywaidd mwyaf adnabyddus yn y byd Arabaidd.
Mae hi'n enwog am ei harddull angerddol o ganu a'i galluoedd lleisiol; cyfeirir ati yn aml fel "Brenhines Rhamant" a "Brenhines y Teimladau". Elissa oedd y cerddor Libanaidd cyntaf i ennill Gwobr Cerddoriaeth y Byd yn 2005 a 2006 ar gyfer gwerthu'r albwm gorau yn y Dwyrain Canol.