Elon Musk

Elon Musk
GanwydElon Reeve Musk Edit this on Wikidata
28 Mehefin 1971 Edit this on Wikidata
Pretoria Edit this on Wikidata
Man preswylBel Air, Saskatchewan, Kingston, Boca Chica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner De Affrica De Affrica
Baner Canada Canada
Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Ysgol Fusnes y Frenhines
  • Coleg Wharton
  • Prifysgol Pennsylvania
  • Pretoria Boys High School
  • Waterkloof House Preparatory School
  • Prifysgol Queen's, Kingston,
  • Prifysgol Stanford
  • Bryanston High School
  • Prifysgol Pretoria Edit this on Wikidata
Galwedigaethrhaglennwr, peiriannydd, entrepreneur, buddsoddwr, person busnes, gwleidydd, gwas sifil, technology entrepreneur Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr, cadeirydd, prif weithredwr, llywydd ar-y-cyd, prif weithredwr, Senior Advisor to the President of the United States Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadErrol Musk Edit this on Wikidata
MamMaye Musk Edit this on Wikidata
PriodJustine Musk, Talulah Riley, Talulah Riley Edit this on Wikidata
PartnerAmber Heard, Grimes, Shivon Zilis, Natasha Bassett Edit this on Wikidata
PlantNevada Musk, Vivian Jenna Wilson, Griffin Musk, Damian Musk, Saxon Musk, Kai Musk, Exash Musk, Strider Musk, Azure Musk, Exa Musk, Tau Musk, Seldon Lycurgus Musk Edit this on Wikidata
PerthnasauLyndon Rive, Jana Bezuidenhout Edit this on Wikidata
LlinachY Muskiaid Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gold Medal of the Royal Aeronautical Society, Person y Flwyddyn Time, Gwobr Time 100, Person y Flwyddyn y Financial Times, Medal John Fritz, Gwobr Time 100, NSS Wernher Von Braun Memorial Award, Great Immigrants Award, Axel Springer Award, Stephen Hawking Medal For Science Communication, Edison Awards, Heinlein Prize for Advances in Space Commercialization, Living Legends of Aviation, Order of Defence Merit, Member of the National Academy of Engineering, honorary doctor of the Yale University, doctor honoris causa, gradd er anrhydedd, Rusty Razor Award Edit this on Wikidata
llofnod

Dyn busnes a buddsoddwr De Affricanaidd-Americanaidd yw Elon Reeve Musk. Yn Rhagfyr 2023 ef oedd person cyfoethoca'r byd, gydag amcangyfrif o werth net o US$222 biliwn, yn ôl Bloomberg Billionaires Index, a $244 biliwn yn ôl Forbes, yn bennaf o ganlyniad i'w gwmniau Tesla a SpaceX.[1] Ef yw sylfaenydd, cadeirydd, Prif Swyddog Gweithredol a phrif swyddog technoleg SpaceX; mae hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol, pensaer cynnyrch a chyn-gadeirydd Tesla, Inc.; mae'n berchennog, cadeirydd a CTO o X Corp.; sylfaenydd y Boring Company a xAI; cyd-sylfaenydd Neuralink ac OpenAI a yn llywydd Sefydliad Musk.

Yn aelod o deulu cyfoethog Musk De Affrica, ganed Elon yn Pretoria a mynychodd Brifysgol Pretoria am gyfnod byr cyn ymfudo i Ganada yn 18 oed, gan gaffael dinasyddiaeth trwy ei fam a aned yng Nghanada. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, aeth i Brifysgol Queen's yn Kingston yng Nghanada. Yn ddiweddarach trosglwyddodd Musk i Brifysgol Pennsylvania, a derbyniodd raddau baglor mewn economeg a ffiseg. Symudodd i Galifornia yn 1995 i fynychu Prifysgol Stanford. Fodd bynnag, rhoddodd Musk y gorau ar ôl dau ddiwrnod a, gyda'i frawd Kimbal, cyd-sefydlodd y cwmni meddalwedd ar-lein Zip2. Prynwyd y cwmni cychwynnol hwn gan Compaq am $307 miliwn ym 1999, ac yn yr un flwyddyn, cyd-sefydlodd Musk X.com, banc uniongyrchol. Unodd X.com â Confinity yn 2000 i ffurfio PayPal.

Yn Hydref 2002, prynnodd eBay y cwmni bancio arlein PayPal am $1.5 biliwn, a'r un flwyddyn, gyda $100 miliwn o'r arian sefydlodd Musk SpaceX, cwmni gwasanaethau hedfan i'r gofod. Yn 2004, daeth yn fuddsoddwr cynnar yn y gwneuthurwr cerbydau trydan Tesla Motors, Inc. (Tesla, Inc. bellach). Daeth yn gadeirydd a phensaer y cynnyrch, gan gymryd swydd Prif Swyddog Gweithredol yn 2008. Yn 2006, aeth Musk ati i greu SolarCity, cwmni ynni solar a gaffaelwyd gan Tesla yn 2016 ac a newidiodd ei enw i Tesla Energy. Yn 2013, cynigiodd system gludo trenau tiwb-faciwm, cyflym. Cyd-sefydlodd OpenAI yn 2015, cwmni ymchwil deallusrwydd artiffisial dielw. Y flwyddyn ganlynol, cyd-sefydlodd Musk Neuralink - cwmni niwrodechnoleg sy'n datblygu rhyngwynebau ymennydd-cyfrifiadur - a'r Boring Company, cwmni adeiladu twneli ar gyfer y trenau tiwb-faciwm. Yn 2022, prynodd Twitter am $44 biliwn. Wedi hynny, unodd y cwmni gyda X Corp. a oedd newydd ei greu ac ailfrandio'r gwasanaeth fel X y flwyddyn ganlynol. Ym Mawrth 2023, sefydlodd xAI, cwmni deallusrwydd artiffisial.

Mae Musk wedi mynegi safbwyntiau sydd wedi ei wneud yn ffigwr dadleuol, nad yw'n cydymffurfio a'r drefn na ffasiwn[2][3] Beirniadwyd ef am wneud datganiadau anwyddonol a chamarweiniol am COVID-19, trawsffobia[4], a chamddenhonglwyd ei sylwadau yn erbyn agwedd milwriaethus Llywodraeth Israel.[5][6][7][8] Mae ei berchnogaeth o Twitter wedi bod yr un mor ddadleuol, diswyddwyd nifer o weithwyr a dywedir fod y nifer o drydariadau cas wedi codi a bod gwybodaeth anghywir a diffyg gwybodaeth ar y wefan. Yn 2018, fe wnaeth Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid yr Unol Daleithiau (SEC) ei siwio am drydar ar gam ei fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer meddiannu Tesla yn breifat. I setlo'r achos, ymddiswyddodd Musk fel cadeirydd Tesla a thalu dirwy o $20 miliwn.

Cefnogodd Musk Donald Trump yn y Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2024. Rhoddodd saliwt tebyg i Hitler yn un o'r ralïau.[9] Ar ôl i Trump ddod yn arlywydd, penodwyd Musk yn bennaeth DOGE ("Adran Effeithlonrwydd y Llywodraeth").[10] Mae'n wrthwynebydd i undebau llafur hefyd.

  1. "Bloomberg Billionaires Index". Bloomberg L.P. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 8, 2017. Cyrchwyd July 25, 2022.
  2. Ghaffary, Shirin (May 20, 2023). "Elon Musk won't stop tweeting his way into trouble". Vox (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 27, 2023. Cyrchwyd October 28, 2023.
  3. Bond, Shannon (31 Hydref 2022). "Elon Musk said Twitter wouldn't become a 'hellscape.' It's already changing". NPR. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Hydref 2023. Cyrchwyd October 28, 2023.
  4. "Elon Musk promotes transphobic content as hate speech surges on his far-right platform". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2023. Cyrchwyd 5 Awst 2023.
  5. Ghaffary, Shirin (May 20, 2023). "Elon Musk won't stop tweeting his way into trouble". Vox (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Hydref 2023. Cyrchwyd October 28, 2023.
  6. "Disney, Apple among major companies to pull business from X after Elon Musk's antisemitic post". NBC News. November 18, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 18, 2023. Cyrchwyd November 18, 2023.
  7. Hatmaker, Taylor (November 17, 2023). "Backlash builds after Elon Musk called an antisemitic conspiracy theory the 'actual truth'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 18, 2023. Cyrchwyd November 18, 2023.
  8. "Another Day, Another Antisemitic Conspiracy Theory for Elon Musk and X". Vanity Fair. November 16, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 17, 2023. Cyrchwyd November 18, 2023.
  9. Gerken, Tom (23 Ionawr 2025). "Over 100 Reddit groups ban X links in protest at Musk arm gesture". BBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ionawr 2025. Cyrchwyd 24 Ionawr, 2025. Check date values in: |access-date= (help)
  10. Shepardson, David (20 Awst 2024). "Trump says he may end EV tax credit; is open to naming Elon Musk as an adviser" (yn Saesneg). Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2024. Cyrchwyd 20 Chwefror 2024.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne