Ely

Ely
Mathdinas, plwyf sifil gyda statws dinas, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Dwyrain Swydd Gaergrawnt
Poblogaeth20,256 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iRibe Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaergrawnt
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd23 mi² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Great Ouse Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLittle Downham Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3981°N 0.2622°E Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012829, E04001630 Edit this on Wikidata
Cod OSTL5379 Edit this on Wikidata
Cod postCB6, CB7 Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y ddinas yn Lloegr yw hon. Am yr ardal o'r un enw Saesneg yng Nghaerdydd gweler Trelái.

Dinas a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Ely.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dwyrain Swydd Gaergrawnt. Saif 14 milltir (23 km) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt a thua 80 milltir (129 km) o ddinas Llundain.

Mae poblogaeth y ddinas yn 20,256 (Cyfrifiad 2011) sy'n ei gwneud yn un o ddinasoedd lleiaf Lloegr.[2][3]

Sefydlodd Æthelthryth (Etheldreda) abaty yn Ely yn 673 OC ac yn 1083 dechreuwyd codi eglwys gadeiriol ar y safle gan y Normaniaid a thyfodd tref ac wedyn dinas o gwmpas yr eglwys. Ailwampiwyd y Gadeirlan yn 1845 a 1870 gan y pensaer George Gilbert Scott.

Amaethyddiaeth ydy asgwrn cefn economi'r ddinas, bellach, ers i'r canlynol ddod i ben: cynaeafu'r pren helyg, magu llysywod, torri mawn a dal adar i'w gwerthu a'u bwyta.

Eglwys Gadeiriol Ely
  1. British Place Names; adalwyd 6 Gorffennaf 2020
  2. Dalton 2011, t. 503
  3. "Ely Today" (PDF). East Cambridgeshire District Council. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-01-18. Cyrchwyd 14 October 2011. Check date values in: |accessdate= (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne