Yr astudiaeth wyddonol o bryfed, a changen o swoleg, yw entomoleg (o'r Hen Groeg entomon ‘pryfyn, trychfil’ a -logia ‘gwyddor’[1]) (hefyd pryfeteg neu bryfyddiaeth). Mae tua 1.3 miliwn o rywogaethau wedi eu disgrifio, mae pryfed yn cyfansoddi mwy na dau-dreuan o'r holl organebau a wyddwn amdanynt,[2] ac maent yn dyddio nôl tua 400 miliwn o flynyddoedd. Mae entomoleg yn arbenigedd o fewn maes bioleg.