Enver Hoxha | |
---|---|
Ganwyd | 16 Hydref 1908 Gjirokastra |
Bu farw | 11 Ebrill 1985 o ffibriliad fentriglaidd Tirana |
Man preswyl | Ish-Blloku |
Dinasyddiaeth | People's Socialist Republic of Albania |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | partisan, gwleidydd |
Swydd | Prif Weinidog Albania, Minister of Defence, first secretary, gweinidog tramor |
Prif ddylanwad | Karl Marx, Vladimir Lenin, Joseff Stalin |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Ffrengig, Communist Party of Belgium, Plaid Lafur Albania |
Mudiad | anffyddiaeth |
Priod | Nexhmije Hoxha |
Plant | Ilir Hoxha |
Perthnasau | Hysen Hoxha |
Gwobr/au | Hero of Albania, Order of the People's Hero, Urdd Lenin, Order of Suvorov, 1st class, Arwr Genedlaethol Iwgoslafia, Order of Skanderbeg, Hero of Socialist Labour, Urdd y seren pleidiol, Order of the Flag |
llofnod | |
Enver Hoxha (16 Hydref 1908 – 11 Ebrill 1985) oedd arweinydd Albania o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd hyd ei farwolaeth yn 1985, yn rhinwedd ei swydd fel Prif Ysgrifennydd y Blaid Lafur Albania Gomiwnyddol. Cafodd ei eni yn Gjirokastër, yn ne Albania.
Yn ogystal â bod yn arweinydd y Blaid Lafur Albanaidd, gwasanaethai fel Prif Weinidog Albania o 1944 hyd 1954 a Gweinidog Materion Tramor o 1946 hyd 1953.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd arweiniodd ymdrech Albania yn erbyn y goresgynwyr Eidalaidd. Yn 1941 sefydlodd Plaid Gomiwnyddol Albania ac roedd yn ysgrifennydd gyffredinol y blaid honno erbyn 1943.
Yn sgîl y toriad â'r Undeb Sofietaidd yn 1961, canlyniad yr anghydfod mawr rhwng yr Undeb Sofietaidd a Gweriniaeth Pobl Tsieina yn yr un flwyddyn, ochrodd Hoxha â Tsieina a throes ei gefn ar y gorllewin a'r Bloc Dwyreiniol fel ei gilydd. Edmygai Mao Zedong yn fawr a cheisiai greu wlad gomiywnyddol seiliedig ar Marcsiaeth-Leniniaeth "bur" ideoleg Mao ac, i raddau, Stalin. Bu'n frwd ei gefnogaeth i Tsieina hyd 1978 ac roedd Albania'n wlad ynysig yn Ewrop yn ystod ei deyrnasiad.
Ar ei farwolaeth yn 1985 fe'i olynwyd gan Ramiz Alia.