Ernest Shackleton | |
---|---|
Llais | |
Ganwyd | 15 Chwefror 1874 Castell Kilkea |
Bu farw | 5 Ionawr 1922 o trawiad ar y galon Grytviken |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | fforiwr, swyddog milwrol, teithiwr, fforiwr pegynol |
Cyflogwr | |
Tad | Henry Shackleton |
Mam | Henrietta Letitia Sophia Gavan |
Priod | Emily Shackleton |
Plant | Edward Shackleton, Raymond Shackleton, Cecily Jane Swinford Shackleton |
Gwobr/au | OBE, Officier de la Légion d'honneur, Marchog Urdd y Seren Pegwn, Marchog Urdd y Dannebrog, Urdd Marchogion Sant Olav, Urdd y Goron Haearn, Urdd Santes Anna, Urdd 3ydd Dosbarth y Goron, Commander of the Royal Victorian Order, Medal y Pegynau, Medal Vega, Grande Médaille d'Or des Explorations, Gwobra Cullum mewn Daearyddiaeth, Medal Constantin, Medal Hubbard, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Medal Victoria, Medal Livingstone |
llofnod | |
Fforiwr o Iwerddon oedd Syr Ernest Henry Shackleton (15 Chwefror 1874 – 5 Ionawr 1922[1])
Arweiniodd Shackleton dair o wledydd Prydain i'r Antarctig. Roedd yn un o brif ffigurau "Oes Arwrol Archwilio'r Antarctig".[2]
Ganed Shackleton yn Swydd Kildare, Iwerddon, cyn symud gyda'i deulu Eingl-Wyddelig i Sydenham un o faestrefi Llundain, pan oedd yn ddeg oed, a chafoedd ei addysgu yng Ngholeg Dulwich.
Ei brofiad cyntaf o Begwn y De oedd fel trydydd swyddog ar Daith Archwiliol gyda Capten Robert Falcon Scott, 1901–04, ond anfonwyd ef adref yn gynnar gan ei fod yn sâl. Roedd yn benderfynol o wneud yn well ac fe ddychwelodd i’r Antarctig yn 1907 fel arweinydd Alldaith Nimrod. Yn Ionawr 1909, hwyliodd eto i'r lledred De pellaf yr oedd unrhyw un wedi'i gyrraedd, sef 88° 23' S, 97 milltir ddaearyddol (112 milltir statud, 180 km) o Begwn y De. Hwn oedd yr agosaf o bell ffordd at y pegwn yn hanes archwilio ar yr adeg honno. Am ei drafferth, cafodd Shackleton ei urddo'n farchog gan Edward VII o Loegr, wedi iddo ddychwelyd adref.
Yn 1912 daeth y fforiwr Norwyaidd Roald Amundsen yn arweinydd y grŵp cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Penderfynodd Shackleton ar darged newydd, roedd am gerdded ar draws Antarctica o un ochr i’r llall gan groesi Pegwn y De yn y canol. Clowyd ei long, Endurance, gan rew a threuliodd y criw 281 o ddiwrnodau ar fwrdd y llong yn disgwyl i'r rhew feirioli, ond yn araf maluriwyd y cwch yn ddarnau. Llusgodd Shackleton a'i ddynion eu badau achub dros filltiroedd lawer o eira a rhew i gyrraedd y môr. Aethant ati i hwylio yn y badau achub gan gyrraedd Ynys yr Eliffant yn y diwedd. Yn Ebrill 1916, hwyliodd Shackleton a phedwar arall gannoedd o filltiroedd oddi yno i Dde Georgia i gael cymorth yn yr orsaf hela morfilod. Roedd hon yn daith o 1,300 cilomedr a chymerodd 16 diwrnod. Yn anffodus glaniodd y cwch yr oedd ynddo ar ochr anghywir yr ynys a bu'n rhaid iddynt ddringo dros y rhan ganol fynyddig i gyrraedd yr orsaf hela morfilod. Cyrhaeddodd criw achub Ynys yr Eliffant yn Awst 1916, a'u hachub.
Yn 1921, dychwelodd Shackleton i'r Antarctig, gan fwriadu cynnal rhaglen o weithgareddau gwyddonol. Cyn i'r alldaith allu cychwyn ar y gwaith hwn, bu farw o drawiad ar y galon ar 5 Ionawr 1922 tra roedd ei long, Quest, wedi'i hangori yn Ne Georgia. Ar gais ei wraig, claddwyd ef yno.[3]
Mae’r cwch y bu’n hwylio ynddo er mwyn cyrraedd De Georgia ar ei daith i achub ei griw i’w weld hyd heddiw yn ei hen ysgol.