Ernest Jones

Ernest Jones
Ganwyd1 Ionawr 1879 Edit this on Wikidata
Tre-gŵyr Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 1958 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethseiciatrydd, seicdreiddydd, niwrolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodMorfydd Llwyn Owen Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain Edit this on Wikidata

Roedd Alfred Ernest Jones (1 Ionawr 187911 Chwefror 1958) yn seiciatrydd o Gymru a wnaeth y mwyaf i boblogeiddio gwaith Sigmund Freud yn Saesneg. Ei awgrym ef sbardunodd y gyngres seicdreiddiol ryngwladol gyntaf lle darllenodd ei bapur enwog ar resymoli. Cyflwynodd dystiolaeth i'r BMA a arweinodd at eu hawgrym y dylid trin seicdreiddiaeth fel triniaeth ddilys. Ffurfiodd y Gymdeithas Seicdreiddiol Brydeinig, a'r Sefydliad Seicdreiddiol, a chychwynnodd y clinig seicdreiddiol cyntaf yng ngwledydd Prydain. Sylfaenydd Lyfrgell Seicdreiddiol Rynglwladol a'r International Journal of Psycho-Analysis. Bu'n arweinydd rhyngwladol y mudiad seicdreiddiol am flynyddoedd lawer.[1]

  1. "JONES, ALFRED ERNEST (1879 - 1958), seicdreiddiwr a chofiannydd swyddogol Sigmund Freud | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2025-01-27.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne