Enghraifft o: | math o endid cemegol |
---|---|
Math | fatty alcohol, alkanol |
Màs | 46.042 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂h₆o |
Rhan o | ethanol binding, ethanol metabolic process, ethanol catabolic process, ethanol biosynthetic process, acetate catabolic process to butyrate, ethanol, acetone and butanol, acetyl-CoA biosynthetic process from ethanol, glycolytic fermentation to ethanol, glucose catabolic process to D-lactate and ethanol, mixed acid fermentation, pentose catabolic process to ethanol, xylose catabolic process to ethanol, response to ethanol, cellular response to ethanol, hexose catabolic process to ethanol, urethanase activity, fatty-acyl-ethyl-ester synthase activity |
Yn cynnwys | hydrogen, ocsigen, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfansoddyn cemegol organig yw ethanol a elwir hefyd yn alcohol ethyl ac yn alcohol grawn, neu'n syml alcohol. Mae'n alcohol syml gyda'r fformiwla gemegol C2H6O. Gellir ysgrifennu ei fformiwla hefyd fel CH3−CH2− OH neu fel C2H5OH (mae'n aelod o'r grŵp ethyl sy'n gysylltiedig â'r grŵp hydrocsyl), ac yn aml yn cael ei dalfyrru fel EtOH. Mae ethanol yn hylif anweddol, fflamadwy, di-liw gydag arogl nodweddiadol tebyg i win a blas cas.[1][2] Mae'n gyffur seicoweithredol, yn gyffur adloniadol, ac yn gynhwysyn gweithredol mewn diodydd alcoholig.
Mae ethanol yn cael ei gynhyrchu'n naturiol trwy eplesu siwgwr gyda burum neu trwy broses petrocemegol fel hydradiad ethen (ethylene). Mae ganddo gymwysiadau meddygol fel antiseptig ac fel diheintydd. Fe'i defnyddir fel toddydd cemegol ac mewn synthesis cyfansoddion organig. Mae ethanol hefyd yn ffynhonnell tanwydd.