| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
135 o seddi yn Llywodraeth Catalwnia 68 sedd sydd angen i gael mwyafrif | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofrestrwyd | 5,510,713 1.8% | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Nifer a bleidleisiodd | 4,115,807 (77.4%) 9.6% | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Ar 14 Ionawr 2015 cyhoeddodd Llywydd Catalwnia, Artur Mas, ei fod yn galw Etholiad Seneddol Catalwnia, 2015 yn gynnar: ar ddydd Sul 27 Medi 2015 er mwyn ethol Aelodau Seneddol i 11fed Llywodraeth y wlad; 135 o seddi.[1] Cynhaliwyd yr Etholiad diwethaf ar 25 Tachwedd 2012.
Dywedodd Artus Mas mai ei fwriad oedd i'r etholiad fod yn bleidlais o ffydd yn annibyniaeth Catalwnia gan fod refferendwm swyddogol ar y pwnc wedi'i wahardd gan Lywodraeth Sbaen. Mae hyn yn dilyn Refferendwm Catalwnia 2014, sef refferendwm answyddogol a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2015 - yn groes i orchymyn gan Lys Cyfansoddiadol Sbaen i ganslo "ymgynghoriad poblogaidd di-refferendwm" a oedd i'w gynnal ar yr un dyddiad (9 Tachwedd). Yn ôl Mas, yr etholiad hwn fydd y "penderfyniad terfynol" ar y mater.
Galwyd yr etholiad wedi cytundeb gan brif sefydliadau a chyrff y wlad: Convergència i Unió, Esquerra Republicana de Catalunya (arweinydd: Oriol Junqueras), Assemblea Nacional Catalana (Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia; arweinydd: Carme Forcadell), Òmnium Cultural (arweinydd: Muriel Casals), a'r Associació de Municipis per la Independència (Llywydd: Josep Maria Vila d'Abadal).[2] Canlyniad y bleidlais oedd i'r glymbleidiau dros annibyniaeth dderbyn mwyafrif llwyr — 72 sedd o fewn senedd gyda chyfanswm o 135 sedd.
|publisher=
(help)CS1 maint: unrecognized language (link)