Enghraifft o: | Etholiad Senedd Cymru |
---|---|
Dyddiad | 1 Mai 2003 |
Rhagflaenwyd gan | Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999 |
Olynwyd gan | Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007 |
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2003 oedd yr ail etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru a cynhaliwyd ar 1 Mai 2003. Cynhaliwyd yr etholiad gynt ym 1999. Cryfhaodd cefnogaeth ar gyfer y Blaid Lafur, tra collodd Plaid Cymru aelodau Cynulliad. Dewisodd Llafur i sefydlu llywodraeth lleiafrif wedi iddynt ennill 30 o seddi, yn hytrach na chreu clym-blaid.[1]
Dychwelodd John Marek i'r Cynulliad fel aelod annibynnol.