![]() | |||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
538 aelod o'r Coleg Etholiadol 270 pleidlais i ennill | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 54,7%[1] ![]() | ||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
![]() Map o ganlyniadau'r etholiad. Coch: Trump a Pence. Glas: Clinton a Kaine. Nifer canlyniadau'r cynrychiolwyr yw'r rhifau; po fwyaf y boblogaeth, mwyaf yw'r nifer o gynrychiolwyr sydd gan y Dalaith. | |||||||||||||||||||||||||||||
|
Cynhaliwyd 58fed etholiad arlywyddol Unol Daleithiau America neu Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, ar yr 8fed o Dachwedd 2016, etholiad pedeirblynyddol. Ystyrir yr etholaid hon yn un o'r rhai mwyaf negyddol erioed; canlyniad yr etholiad oedd i Donald Trump (y Blaid Weriniaethol) gael ei ethol yn Arlywydd a Mike Pence yn Ddirprwy Arlywydd. Trump fydd y 45ed Arlywydd UDA.
Pleidleisiodd y cynrychiolwyr (neu 'etholwyr' / electors) ar ran yr etholaethau Arlywydd a Dirprwy-Arlywydd drwy'r Coleg Etholiadol. Cytunwyd ar y cyfnod o bedair blynedd yn yr 22ain Gwelliant o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau a gwaharddwyd yr Arlywydd cyfredol, Barack Obama o'r Blaid Ddemocrataidd rhag cael ei ethol am y trydydd tymor. Dyma felly etholiad y 45ed Arlywydd a'r 48fed Dirprwy Arlywydd o'r wlad.
Trechodd y dyn busnes Donald Trump y Seneddwr Ted Cruz o Texas, John Kasich o Ohio a Marco Rubio o Florida ar 19 Gorffennaf 2016 gan ddod yn gynrychiolydd y Blaid Weriniaethol.[6] Pe bai'n cael ei ethol, Trump fyddai Arlywydd hynaf yr UD erioed.[7] Daeth y cyn-Ysgrifennydd Gwladol Hillary Clinton i gynrychioli'r Blaid Ddemocrataidd ar 26 Gorffennaf 2016, wedi iddi drechu'r Seneddwr Bernie Sanders o Vermont. Pe bai'n cael ei hethol, hi fyddai'r ferch gyntaf i ddod yn Arlywydd yr UD.[8]
|accessdate=
(help)
|newspaper=
(help)