Warning: Page using Template:Infobox election with unknown parameter "next_mps" (this message is shown only in preview).
Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019 ar 12 Rhagfyr2019, dwy flynedd a hanner wedi'r etholiad diwethaf. Hon oedd yr etholiad cyntaf i'w chynnal yn Rhagfyr ers 1923.[2] Cafodd y Ceidwadwyr fwyafrif clir a gwelwyd yr SNP yn cipio cyfanswm o 48 o seddi; yng Ngogledd Iwerddon, cipiwyd mwyafrif y seddau gan bleidiau gweriniaethol, oddi wrth yr unoliaethwyr. Cadwodd Plaid Cymru eu pedair sedd. Hwn oedd yr etholiad gwaethaf i'r Blaid Lafur ers 1935.[3][4]
Galwyd yr etholiad yn dilyn methiant y llywodraeth Doriaidd i basio deddfau ynglŷn â Brexit a'u methiant i symud ymlaen dros gyfnod o 3 blynedd. Cafodd y cynnig i gynnal yr etholiad hon ei basio gan fwyafrif llethol gyda 438 o blaid ac 20 yn erbyn.[5] Bu i'r SNP ymatal eu pleidlais, ond fe bleidleisiodd ASau Plaid Cymru yn erbyn y cynnig, gan ddweud mai cynnal refferendwm y bobl ar adael yr Undeb Ewropeaidd ddylai ddod yn gyntaf.