Eunapius | |
---|---|
Ganwyd | c. 349 ![]() Sardis ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | hanesydd, athronydd, llenor, cofiannydd ![]() |
Adnabyddus am | History after Dexippus, Lives of the Sophists ![]() |
Rhethregydd Groeg a anwyd yn Sardis yn 347 oedd Eunapius.
Yn y flwyddyn 405 ysgrifennodd gyfrol o fywgraffiadau tri ar hugain o athronwyr a soffyddion cynharach neu gyfoes. Er nad yw wedi ei hysgrifennu'n dda erys yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes neo-Platoniaeth yn y cyfnod hwnnw.
Mae sawl dryll o barhad o gronicl gan Herennius Dexippus wedi goroesi yn ogystal. Roedd y parhad hwnnw, mewn 14 llyfr, yn rhychwantu'r cyfnod rhwng 268 a 404 OC; fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan yr hanesydd Bysantaidd Zosimus (fl. ail hanner y 5g).