Ewcalyptus | |
---|---|
![]() | |
Blodau a dail | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Myrtales |
Teulu: | Myrtaceae |
Genws: | Eucalyptus L'Hér. |
Rhywogaethau | |
tua 700 |
O'r iaith Roeg y daw'r gair ewcalyptws sef εὐκάλυπτος, eukályptos, sy'n golygu "gorchuddiwyd yn dda"; planhigyn blodeuol sy'n perthyn i deulu'r myrtwydd (Myrtaceae) ac sy'n deillio o Awstralia, Gini Newydd, Ynysoedd y Philippines ac Indonesia ydyw. Ceir dros 700 gwahanol fath o ewcalyptws. Dim ond 15 ohonynt sy'n tyfu'n naturiol y tu allan i Awstralia.
Defnyddir y goeden hon y tu allan i'w thiriogaeth frodorol er mwyn sychu rhostiroedd i leihau malaria ond mae cryn ddadlau ynghylch hyn.[1]