![]() | |
Enghraifft o: | teulu o rocedi ![]() |
---|---|
Math | cerbyd lansio ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhan o | cerbydau lawnsio SpaceX ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2006 ![]() |
Yn cynnwys | Falcon 1, Falcon 9, Falcon Heavy ![]() |
Gwneuthurwr | SpaceX ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
![]() |
Teulu o rocedi gwennol (aml-ddefnydd) yw'r Falcon a gynhyrchir gan un o gwmniau Elon Musk: Space Exploration Technologies Exploration (neu SpaceX) ac a elwir yn 'rocedi lansio'. Yn 2017 roedd y rocedi a ddefnyddiwyd yn cynnwys y Falcon 1 a'r Falcon 9.
Lansiwyd y Falcon 1 lwyddiannus yn gyntaf ym Medi 2008, wedi sawl methiant blaenorol. Mae'r Falcon 9 (EELV)-class gryn dipyn yn fwy na'r Falcon 1 ac roedd ei thaith lwyddiannus gyntaf i'r gofod ar ei lansiad cyntaf, sef ar 4 Mehefin 2010; defnyddiai gynllun 'gwennol', sef fod rhannau o'r roced yn dychwelyd i'r Ddaear er mwyn eu hailddefnyddio drachefn a thrachefn. Lansiwyd y Falcon Heavy, gyda thair rhan iddi am y tro cyntaf ar 6 Chwefror 2018.
Ymhlith cynlluniau'r cwmni SpaceX mae gwladychu'r blaned Mawrth. Bwriada'r cwmni hefyd barhau i gynllunio, i gynhyrchu ac yna i lansio prosiect BFR, a wnaed yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym Medi 2017. Dyma'r teulu o rocedi a fydd, ryw ddydd, yn cymryd drosodd o deulu'r Falcon.