![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | rocket series ![]() |
---|---|
Math | Falcon, reusable launch vehicle, medium-lift launch vehicle ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn cynnwys | Falcon 9 booster, Merlin 1D, Merlin 1D Vacuum ![]() |
Gwneuthurwr | SpaceX ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | https://www.spacex.com/vehicles/falcon-9/ ![]() |
![]() |
Cerbyd lansio a all godi pwysau canolig, y gellir ei ailddefnyddio'n rhannol, yw'r Falcon 9; gall gludo cargo a chriw i orbit y Ddaear. Cafodd y roced ei dylunio, ei chynhyrchu a'i lansio gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX., a sefydlwyd gan Elon Musk. Gellir ei hefyd ei defnyddio fel cerbyd lansio codi powysau trwm un-defnydd. Cynhaliwyd lansiad cyntaf y Falcon 9 ar 4 Mehefin 2010. Lansiwyd taith ailgyflenwi fasnachol gyntaf Falcon 9 i'r Orsaf Ofod Ryngwladol (yr ISS) ar 8 Hydref 2012.[1] Yn 2020 gwelwyd y llong ofod hon yn lansio bodau dynol i orbit - yr unig gerbyd o'r fath sy'n gallu gwneud hynny (yn 2023).[2] Dyma'r unig roced o UDA sydd wedi'i hardystio ar hyn o bryd ar gyfer cludo pobl i'r ISS.[3][4][5] Yn 2022, daeth y roced a lansiwyd fwyaf aml mewn hanes, a thorodd pob record o ran diogelwch, gyda dim ond un ehediad yn methu.[6]
Mae gan y roced ddwy ran: mae'r cam cyntaf (y cyfnerthydd (booster)) yn gwthio'r ail ran a'i chargo i gyflymder ac uchder a bennwyd ymlaen llaw, ac ar ôl hynny mae'r ail gam yn tanio ac yn gwthio'r cargo i'w orbit. Gall y cyfnerthydd lanio'n fertigol fel y gellir ei hailddefnyddio. Cyflawnwyd y gamp hon gyntaf ar ehediad 20, yn Rhagfyr 2015. Ar 19 Rhagfyr 2023, roedd SpaceX wedi llwyddo i lanio cyfnerthyddion Falcon 9 239 o weithiau. Mae rhai cyfnerthyddion unigol wedi cyflawni cymaint â 18 taith.[7] Mae'r ddau gam (neu'r ddwy ran) yn cael eu pweru gan beiriannau SpaceX Merlin, gan ddefnyddio ocsigen hylif cryogenig a cherosin gradd roced ( RP-1 ) fel gyriannau.[8][9]
Y cargo trymaf a gludwyd i orbit trosglwyddo geosefydlog (GTO) oedd llwyth o Intelsat 35e a oedd yn 6,761 cilogram (14,905 pwys), a Telstar 19V a oedd yn 7,075 kg (15,598 pwys). Lansiwyd y cyntaf i orbit trosglwyddo uwch-cydamseredig manteisiol,[10] tra aeth yr ail i mewn i GTO ynni is, gydag apogee ymhell islaw'r uchder geosefydlog.[11] Ar 24 Ionawr 2021, gosododd Falcon 9 record ar gyfer y nifer fwyaf o loerennau a lansiwyd gan un roced pan gludodd 143 lloeren i orbit.[12]
Mae Falcon 9 wedi llwyddo i gludo gofodwyr NASA i'r ISS a derbyniodd ardystiad ar gyfer y rhaglen Lansio Gofod Diogelwch Cenedlaethol UDA[13] a Rhaglen Gwasanaethau Lansio NASA fel "Categori 3", a all lansio'r teithiau NASA drutaf, pwysicaf a mwyaf cymhleth.[14]
Mae sawl fersiwn o Falcon 9 wedi'u hadeiladu a'u hedfan:
07/22/18 Falcon 9 v1.2 F9-59 Telstar 19V 7.075 CC 40 GTO-