Falls Road

Rhan o'r Falls Road yn 2005.

Lleolir y Falls Road (o'r enw Gwyddeleg: Bóthar na bhFál sef "ffordd y cloddiau") yng ngorllewin Belffast, Gogledd Iwerddon. Dyma'r brif ffordd yng ngorllewin Belffast, sy'n rhedeg o Stryd Divis (Divis Street) yng nghanol y ddinas i Andersonstown yn y maesdrefi. Mae ei enw yn gysylltiedig â chyfnod Helyntion Gogledd Iwerddon a chymunedau Catholig a Gweriniaethol y ddinas. Mae'r ardal gyfagos o gwmpas Ffordd Shankill (Shankhill Road) yn ardal Brotestannaidd yn bennaf, a wahanir o'r Falls gan "linellau heddwch". Dyma'r rhan o Felffast lle ceir y nifer uchaf o siaradwyr Gwyddeleg. Defnyddir yr enw "The Falls" i gyfeirio at y rhan honno o Orllewin Belffast sy'n gorwedd ger y ffordd hefyd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne