Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.178769°N 4.151346°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yn Nyffryn Aeron yng nghanolbarth Ceredigion yw Felinfach ( ynganiad ), hefyd Felin-fach.[1] Gorwedda ger y briffordd A482 fymryn i'r de o bentref Ystrad Aeron, tua hanner ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan. Mae yng nghymuned Llanfihangel Ystrad. Yn 2004 roedd ward Felinfach a 579 o bleidleiswyr. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y pentref yn byw yn un o ddwy stâd Bro Henllys a Bryn Salem.
Mae Felinfach yn nodedig am Theatr Felinfach, ac am y cysylltiad hir rhwng y pentre a'r diwydiant llaeth.
Saif Theatr Felinfach ar Gampws Felinfach ac yno hefyd ceir Y Ganolfan sef canolfan addysg Cyngor Sir Ceredigion. Yma mae swyddfeydd Cered: Menter Iaith Ceredigion, Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion a nifer o staff Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion. Ceir yma hefyd nifer o ystafelloedd cyfarfod poblogaidd.
Cyn sefydlu Campws Felinfach roedd y safle arfer bod yn gartref i Goleg Addysg Broffesiynol Felinfach. Mae'r ystafelloedd sydd yn awr yn cael eu defnyddio fel swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod arfer bod yn ystafelloedd darlithio, llyfrgell, gweithdai ayyb.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]