Defnyddir y term fertig mewn geometreg i ddisgrifio'r pwynt lle mae deilliad cyntaf y crymedd (curvature) yn sero. Fel rheol, mae hyn yn uchafswm neu'n lleiafswm y crymedd, ac mae rhai awduron yn diffinio fertig' fel "anterth y crymedd".
Ceir achosion gwahanol i hyn: er enghraifft pan fo'r ail ddeilliad hefyd yn sero, neu pan fo'r crymedd yn gyson. Ar gyfer cromlinau gofod (3-dimensiwn), ar y llaw arall, mae fertig yn bwynt lle mae'r torsiwn yn diflannu.