Ferwca

Clwstwr o ferwca ar droed

Dafaden gwadnol a achosir gan y feirws papiloma dynol (HPV) ac sy'n ymddangos ar y sawdl, ac ar waelod neu fysedd y traed ydy ferwca hefyd dafaden[1] [2] neu tafaden.[3] Gan amlaf mae dafaennau gwadnol yn cyfyngu eu hunain ac nid ydynt yn lledu'n ormodol, ond yn gyffredinol argymhellir triniaeth i leihau'r symptomau (sy'n medru bod yn boenus), i'w gwaredu'n gynt, ac i osgoi eu trosglwyddo i bobl eraill.

Credir fod gan tua 10% o boblogaeth yr Deyrnas Unedig ferwca ar unrhyw adeg penodol.[4]

  1. Geiriadur yr Academi, s.v. verruca
  2.  dafaden. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Awst 2022.
  3. https://www.thepodiatristaber.co.uk/consultationscd5d8e9b[dolen farw]
  4. Warts and Verrucas Archifwyd 2013-09-11 yn y Peiriant Wayback Gwefan Patient.co.uk 30 Awst 2013

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne