Ers canrifoedd, mae'n arferiad ledled y byd i bobl ddod at ei gilydd mewn ffair (lluosog: ffeiriau) i fasnachu nwyddau, i arddangos neu werthu anifeiliaid, i gyflogi neu i hamddena. Erbyn heddiw, gall ffair gynnwys elfennau tebyg i sioe amaethyddol, fête, ffair reidiau, ffair fasnach, marchnad anifeiliaid, marchnad Nadolig, sioe geir, sioe flodau neu barêd.
Datblygodd y ffair fasnach Ewropeaidd yn yr Oesoedd Canol fel modd o ymgynnull gwerthwyr a phrynwyr ar adegau penodol. Y ddwy brif ffair yn Lloegr oedd Caerwynt a Stourbridge, a theithiodd marsiandwyr o'r Iseldiroedd ac arfordiroedd y Baltig, yn ogystal â dynion cefnog Llundain, i'r mannau hynny i adwerthu a chyfanwerthu eu nwyddau. Ymhlith y ffeiriau masnach mwyaf ar y cyfandir oedd Leipzig (a sefydlwyd yn y 12g), Lyon, Prâg, a Nizhny Novgorod. Cynhelir ffeiriau masnach ac arddangosfeydd diwydiannol hyd yr 21g.