Math | diwylliant, gweithgaredd economaidd, chwiw |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiria ffasiwn at arddulliau a thraddodiadau sy'n gyffredin ar gyfnod penodol mewn amser. Yn ei ystyr mwyaf cyffredin, cyfeiria at fathau poblogaidd o ddillad. Gall ffasiynau fod yn boblogaidd mewn gwahanol ddiwylliannau ar unrhyw gyfnod penodol. Mae'n bwysig nodi y bydd y syniad o gynllunio a ffasiwn yn newid yn gynt na rhyw ddiwylliant penodol yn ei chyfanrwydd. Mae cynllunwyr ffasiwn yn creu a chynhyrchu eitemau i'w gwisgo.
Ceir nifer o ddinasoedd a ystyrir yn ganolfannau ffasiwn rhyngwladol neu'n brifddinasoedd ffasiwn y byd. Cynhelir Wythnosau Ffasiwn yn y dinasoedd hyn, lle arddangosa dylunwyr eu casgliadau newydd o ddillad i gynulleidfaoedd. Y pum prif ddinas yw Tokyo, Llundain, Paris, Milan ac Efrog Newydd - gyda'r pump ohonynt yn enwog am eu dylanwad sylweddol ar ffasiwn rhyngwladol ac yn gartref i bencadlysoedd rhai o gwmnïau ffasiwn mwyaf y byd. Cynhalia dinasoedd eraill fel Los Angeles, Seoul, Berlin, Rhufain, Osaka, Toronto, Hong Kong, Dubai, São Paulo, Sydney, Moscow, a Shanghai wythnosau ffasiwn hefyd ac mae rhain yn cynyddu o ran eu poblogrwydd yn flynyddol.