Ffesant | |
---|---|
![]() | |
Ffesant gwryw ar ystâd Y Faenol, Y Felinheli | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Galliformes |
Teulu: | Phasianidae |
Genws: | Phasianus |
Rhywogaeth: | P. colchicus |
Enw deuenwol | |
Phasianus colchicus Linnaeus, 1758 |
Mae'r Ffesant (Phasianus colchicus ) yn aelod o deulu'r Phasianidae (lluosog: ffesantod). O Asia y daw yn wreiddiol ond mae'n aderyn cyfarwydd trwy ran helaeth o'r byd oherwydd ei boblogrwydd gyda saethwyr.
Mae'r ffesant yn aderyn cymharol fawr, 50–90 cm o hyd, gyda'i chynffon hir yn gyfrifol tua hanner hyn. Brown yw'r rhan fwyaf o blu'r ceiliog, ond mae'r gwryw yn aderyn lliwgar gyda phen gwyrdd a darnau coch, gwyn, porffor a gwyrdd ar y corff. Mae'r iâr yn llai tarawiadol, gyda phlu brown a chynffon fyrrach. Mae gan un is-rywogaeth, P. c. torquatus, goler wen, tra nad oes coler gan P. c. colchicus.
Brodor o'r dwyrain pell yw'r ffesant a chyrhaeddodd Gymru tua'r 16g. Fe'i ceir yn y rhan fwyaf o gynefinoedd ar dir isel gan gynnwys coedwigoedd, tir amaethyddol a gwlyptiroedd. Rhyddheir tua 40 miliwn o adar ar gyfer eu saethu yn y DU pob blwyddyn. Dengys gwaith maes 2008-12 fod y ffesant yn gyffredin yn y rhan fwyaf o ogledd Cymru. Ceir y nifer fwyaf lle mae stadau saethu mawr yn rhyddhau adar i'w hela. Oni bai am yr adar hela, byddai'r ffesant yn llawer llai cyffredin, gan nad yw'n nythu'n llwyddiannus lawn yn y gorllewin.[1]