Ffibrosis yr ysgyfaint

Ffibrosis yr ysgyfaint
Enghraifft o:cyflwr meddygol, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd interstitaidd yr ysgyfaint, clefyd, fibrosis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ffibrosis yr ysgyfaint yn derm sy’n disgrifio llawer o wahanol gyflyrau sy’n achosi i feinwe greithiol hel yn yr ysgyfaint. "Ffibrosis" yw’r enw ar y casgliad hwn o feinwe greithiol, sy’n gwneud eich ysgyfaint yn llai ystwyth. Mae ffibrosis yr ysgyfaint yn fath o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint (ILD). Ystyr "interstitaidd" yw bod y clefyd yn effeithio ar yr intersitiwm, sef rhwydwaith o feinwe tebyg i les sy’n cynnal y codenni aer yn eich ysgyfaint. Mae dros 200 o wahanol glefydau interstitaidd yr ysgyfaint. Rydym yn gwybod beth yw achos rhai mathau o ffibrosis yr ysgyfaint. Ond nid oes modd dod o hyd i achos pendant i lawer o fathau eraill. Gyda chlefydau interstitaidd yr ysgyfaint, efallai bod creithiau neu lid yn eich ysgyfaint. Mae rhai clefydau interstitaidd yn achosi creithio gan mwyaf, ac eraill yn achosi llid gan mwyaf. Ond, yn aml, bydd cyfuniad o’r prosesau hyn yn digwydd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne