Ffilm ryfel

Ffilm ryfel
Enghraifft o:genre mewn ffilm Edit this on Wikidata
Mathwar fiction, ffilm Edit this on Wikidata
Prif bwncrhyfel Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre o ffilm yw ffilm ryfel sy'n ymwneud â rhyfela, ac yn enwedig brwydrau ar y tir a'r môr ac yn yr awyr, ac sy'n cynnwys golygfeydd o ymladd sydd yn ganolog i ddrama'r stori. Gall ffilm ryfel fod yn ffuglen, neu'n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, megis ffilm hanesyddol neu fywgraffyddol, neu'n ffilm ddogfen ffeithiol.

Mae ffilmiau rhyfel yn aml yn ymdrin â themâu megis natur rhyfel, ymladd, goroesiad, dihangfa, aberth, cwmnïaeth rhwng milwyr a morâl, creulondeb ac annynoldeb ar faes y gad, ac effeithiau rhyfel ar gymdeithas ac unigolion.

Ceir sawl is-genre o'r ffilm ryfel, gan gynnwys y ffilm wrth-ryfel, y gomedi ryfel, a phropaganda.[1]

  1. Jeanine Basinger, "War films" yn Schirmer Encyclopedia of Film cyfrol 4, golygwyd gan Barry Keith Grant (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007), tt. 337–46.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne