Maes rhyngddisgyblaethol o ffiseg a chemeg ffisegol yw ffiseg foleciwlaidd sydd yn ymwneud ag ymddygiad a strwythur ffisegol moleciwlau.[1] Tynnai ar ffiseg atomig, cemeg cwantwm, mathemateg, a sbectrosgopeg, ac mae'n astudio bondiau cemegol, dynameg adweithiau moleciwlaidd, a laserau.