![]() | |
Enghraifft o: | math o offeryn cerdd ![]() |
---|---|
Math | offeryn chwyth, offeryn cerdd chwythbren ![]() |
Dyddiad cynharaf | Mileniwm 35. CC ![]() |
![]() |
Offeryn cerdd chwythbren yw'r ffliwt; cynhyrchir y sain drwy i'r gwynt a chwythir o'r geg basio dros ymyl twll y ffliwt. Defnyddir y gair 'ffliwten' hefyd mewn rhai mannau. 'Ffliwtydd' yw person sy'n chwythu'r ffliwt.
Defnyddir y gair, hefyd, yn yr idiom, "Mae hi wedi mynd yn ffliwt!" Hynny yw, fod pethau wedi mynd i'r gwellt. Ystyr arall sydd pan ddywedir "Yr hen ffliwten wirion iddi!"
Gan E. Roberts, yn ei lyfr Crist o'r Cymylau yn Dod i'r Farn, y ceir hyd i'r enghraifft ysgrifenedig gynharaf o'r sillafiad hwn yn y Gymraeg, a hynny yn 1766.