Ffonoleg

Ffonoleg (neu seinyddiaeth[1][2][3]) yw'r gangen o ieithyddiaeth sy'n astudio systemau seiniau mewn iaith a sut mae iaith yn defnyddio seiniau i gyfleu gwahaniaethau mewn ystyr. Mae ffonoleg yn ymwneud â seiniau fel unedau y tu fewn i system ieithyddol, tra bod seineg yn ymwneud â disgrifiad a dadansoddiad manwl o'r seiniau ei hunain heb ystyried eu lle o fewn system ieithyddol.

Uned sylfaenol ffonoleg yw'r ffonem, yr uned leiaf i gyfleu gwahaniaethau ystyr mewn iaith benodol. Un gorchwyl pwysig i ffonolegwyr sy'n astudio iaith benodol yw pennu beth yw ffonemau'r iaith honno, disgrifio eu dosbarthiad a sut maen nhw'n effeithio ar ei gilydd.

  1. Geiriadur yr Academi, d.g. ‘phonology’
  2.  seinyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Ionawr 2025.
  3. Morgan D. Jones: Termau iaith a llên, 2il arg., Llandysul: Gwasg Gomer, 1974, t. 103.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne