Enghraifft o: | galwedigaeth |
---|---|
Math | teithiwr, anturiaethwr, ymchwilydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
BBC Bitesize | |
Newidiadau ym mhatrymau mudo - trosolwg | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Rhywun sy'n chwilio neu'n ymchwilio er mwyn darganfod gwybodaeth neu adnoddau yw Fforiwr.
Mae fforio wedi bod yn rhan annatod o fodolaeth y ddynoliaeth ar y ddaear a thu hwnt wrth ddod i wybod am y byd o'n cwmpas - er enghraifft, anturiaethau fforio'r Groegiaid a’r Rhufeiniaid yng ngogledd Ewrop. Fe wnaeth fforwyr Groegaidd amgylchynu Ynys Prydain am y tro cyntaf yn y 4edd ganrif cyn Crist. Roedd y Rhufeiniaid a'r Tsieineaid hefyd yn fforwyr cynnar llwyddiannus, gan ddogfennu tiroedd newydd a'u pobl.
O tua 800 OC ymlaen dechreuodd y Llychlynwyr archwilio Ewrop a hwylio i diroedd newydd, gan gynnwys Gwlad yr Iâ a Newfoundland. Yn y dwyrain, arweiniodd fforio at sefydlu'r Ffordd Sidan, rhwydwaith o ffyrdd a ddefnyddid ar gyfer masnach rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Cafodd y llwybrau hyn ei ddogfennu gan yr archwiliwr Marco Polo yn y 13eg ganrif.[1]
Rhwng y 15fed ganrif a'r 17eg ganrif bu cyfnod pan roedd fforwyr o Ewrop, yn enwedig Sbaen a Phortiwgal, yn anturio ar draws Cefnfor yr Iwerydd i'r Amerig. Hon oedd Oes y Darganfod. Yn nes ymlaen yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif helpodd fforio i gwblhau gwybodaeth dynoliaeth am fap cyfan o'r byd - er enghraifft, cyrion Asia ac i fyny i Alaska, a chyfandiroedd Awstralia a’r Antartig. Bu fforio a darganfod cyson yn nhiroedd America gan yr Ewropeaid yn y 19eg ganrif a thechnoleg newydd yn fodd o ddarganfod y bydysawd a’r planedau y tu hwnt i’r ddaear yn yr 20fed ganrif.