Mewn cemeg, y cymhareb symlaf o'r nifer o atomau mewn cyfansoddyn ydy'r fformiwla empirig[1]. Er enghraifft, byddai'r fformiwla empirig hydrogen perocsid (H2O2) yn HO.
Mewn cyferbyniad, mae'r fformiwla foleciwlaidd yn dangos y nifer o bob atom mewn cyfansoddyn. H2O2 ydy'r fformiwla foleciwlaidd hydrogen perocsid gan fod 'na ddau atom ocsigen a dau atom hydrogen yn y moleciwl.