Arfer ac ideoleg o gyfranogiad cyfyngiedig yn yr economi gonfensiynol a'r treuliant lleiaf o adnoddau, yn arbennig trwy adfer nwyddau gwastraff fel bwyd, yw ffriganiaeth.[1] Mae'r gair 'ffrigan' yn dod o'r Saesneg, "freegan" sy'n gyfansoddair o'r geiriau "free" a "vegan".[2]
Tra bod figaniaid yn osgoi prynu cynnyrch anifeiliaid fel gwrthdystiad yn erbyn egsploetio anifeiliaid, mae ffriganiaid - mewn theori, o leiaf - yn osgoi prynu unrhywbeth fel gweithred o wrthdystiad yn erbyn y system fwyd yn gyffredinol.
Mae ffriganiaeth yn aml yn cael ei ystytried yn gyfystyr â chwilio trwy fwyd gwastraff, ond mae ffriganiaid yn cael eu hadnabod am eu hymlyniad ag ideoleg gwrth-brynwriaethol a gwrth-gyfalafol ac am gofleidio strategaethau byw amgen, sgwatio mewn adeiladau gwag, a "garddio guerrilla" mewn parciau dinesig.[3]