Enghraifft o: | digwyddiad |
---|---|
Lladdwyd | 31 |
Rhan o | Yemeni crisis |
Lleoliad | Radda District |
Ar 16 Rhagfyr 2014 bu farw 25 o bobl, gan gynnwys 15 o blant, pan ffrwydrodd dau fom car yn ardal Radaa yn nhalaith Bayda yng nghanolbarth Iemen. Ffrwydrodd y bom cyntaf ger rheolfa gwrthryfelwyr Houthi wrth i fws ysgol gynradd yrru heibio, gan ladd 15 o ferched. Ffrwydrodd yr ail fom ger cartref un o arweinwyr y Houthi, Abdullah Idris, gan ladd 10 o bobl. Yn ôl y Houthi a Gweinyddiaeth Amddiffyn Iemen, al-Qaeda yng Ngorynys Arabia oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.[1]