Enghraifft o: | dosbarth llenyddol |
---|---|
Math | cerdd, barddoniaeth naratif, epig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurf lenyddol sydd yn barodi o gonfensiynau ac arddull yr arwrgerdd yw'r ffug-arwrgerdd. Y brif elfen o ddigrifwch yn y fath waith ydy cyfosod arddull a themâu'r epig, megis dewrder a mawredd, â phwnc dibwys, yn aml trwy bortreadu rhyw fân-gymeriad (weithiau anifail neu beth difywyd) yn arwr y gerdd a thraddodi ei anturiaethau a champau yn ôl ystrydebau'r genre.
Gellir olrhain y traddodiad yn ôl i'r oes glasurol, a'r esiampl hynaf i oroesi ydy'r Batrachomyomachia ("Brwydr y Brogaod a'r Llygod"; a gredir iddi gael ei chyfansoddi yn yr oes Helenistaidd), cerdd fwrlésg ddienw sydd yn dynwared yr Iliad gan Homeros. Yn yr Oesoedd Canol ymddangosodd arwrgerddi tebyg yn Lladin am hanesion anifeiliaid, yr anifeilgerddi. Yn llenyddiaeth y Dadeni, ysgrifennwyd sawl arwrgerdd ddifrif-ddigrif a ellir ystyried yn ffug-arwrgerdd. Y gwychaf ohonynt, mae'n debyg, ydy Morgante (1478, 1483) gan Luigi Pulci sydd yn cyfuno dwy arwrgerdd yn nhraddodiad Mater Ffrainc—Orlando am anturiaethau Rolant yn y dwyrain, a La Spagna am ryfel Siarlymaen yn Sbaen a Brwydr Ronsyfal—ac yn parodïo barddoniaeth sifalraidd yr Oesoedd Canol trwy bortreadu'r cawr Morgante yn arwr y chwedl.
Adferwyd yr arwrgerdd glasuraidd, ac felly hefyd y ffug-arwrgerdd, yn y cyfnod neo-glasurol yn niwedd yr 17g a dechrau'r 18g. Yn Ffrainc a Lloegr, defnyddiwyd y ffurf yn fynych gan y ddwy ochr wrthwynebol ym mhrif ffrae lenyddol a chelfyddydol yr oes, sef Dadl yr Hen a'r Newydd. Yn Le Lutrin (1674–83) gan Nicolas Boileau, er enghraifft, mae trysorydd a chantor yn cweryla dros le i roi'r ddarllenfa mewn capel, a golygfa olaf y gerdd yw brwydr mewn siop lyfrau rhwng cefnogwyr y ddau ddyn yn taflu awduron "yr hen" a'r "newydd" at ei gilydd. Dychmygodd Jonathan Swift frwydr debyg, mewn rhyddiaith, yn ei waith dychanol The Battle of the Books (1704). Defnyddiwyd y ffurf gan yr "hynafwyr" i ddychanu cymeriad anarwrol yr oes fodern drwy watwar cymeriadau a digwyddiadau cyfoes yn eu ffug-arwrgerddi. Ar ochr arall y ddadl, defnyddiodd rhai o'r "modernwyr" y ffurf i ddilorni'r clasurwyr a'u syniadau hen ffasiwn.[1]
Y ffug-arwrgerdd enwocaf ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yw The Rape of the Lock (1712–14) gan Alexander Pope, sydd yn dilyn ymgeisydd am law ferch wrth iddo geisio torri cudyn o'i gwallt. Portreadir yr achos dinod hwn fel petai'n frwydr fawr, megis Rhyfel Caerdroea, a defnyddiai Pope gefndir ei gerdd i ddychanu cylchoedd uchaf cymdeithas a'u harferion a gwerthoedd. Mae ffug-arwrgerddi Saesneg eraill yr oes Awgwstaidd hon mae Mac Flecknoe gan John Dryden a The Dunciad gan Pope, y ddwy a ddefnyddiwyd i wneud hwyl ar bennau llenorion eraill.