Street Fighter, gêm arcêd llawn cyffro. | |
Enghraifft o: | math o ffuglen |
---|---|
Math | ffuglen |
Genre yw ffuglen llawn cyffro sy'n canolbwyntio ar gyffro ac antur, ac yn aml ymladd a thrais. Y cyfryngau llawn cyffro amlycaf yw ffilmiau llawn cyffro a gemau llawn cyffro, ond ceir hefyd nofelau, straeon byrion, manga, a chomigion yn y genre.
Mae "acsiwn" yn elfen mewn nifer o genres eraill, yn enwedig ffuglen sy'n ymwneud ag ysbïo, trosedd, cyffro, antur, rhyfel, crefftau ymladd, y Gorllewin Gwyllt, ac archarwyr.
Mae gan y stori llawn cyffro ystrydebol arwr yn brif gymeriad iddi, o bosib gyda chymeriad benywaidd yn ddiddordeb rhamantaidd iddo, ond mae gan fwyfwy o weithiau modern arwres yn ganolbwynt iddynt. Mae'r arwr neu'r arwres yn brwydro'n erbyn y dyn drwg, ac yn ennill buddugoliaeth erbyn y diweddglo ar ôl stori llawn gorchestau a gornestau corfforol.[1] Ymhlith y motiffau a throsiadau cyffredin a geir mewn straeon llawn cyffro yw cwffio, rasys ceir (neu gerbydau eraill), trychinebau, dianc ac achub, trosedd, dial, rhyddhad, a gwaredigaeth.