Enghraifft o: | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | Democratiaeth Gristnogol, liberal conservatism, pro-Europeanism, rhyddfrydiaeth economaidd |
Label brodorol | Fine Gael |
Dechrau/Sefydlu | 8 Medi 1933 |
Sylfaenydd | W.T. Cosgrave, Frank MacDermot, Eoin O'Duffy |
Aelod o'r canlynol | European People's Party |
Pencadlys | Dulyn |
Enw brodorol | Fine Gael |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Gwefan | http://www.finegael.ie/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fine Gael – The United Ireland Party, neu Fine Gael (Gwyddeleg am Deulu neu Dylwyth y Gwyddelod) yw'r drydedd blaid wleidyddol fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon ar ôl Fianna Fail a Sinn Féin. Yn ôl y blaid, mae ganddi 30,000 o aelodau.[1] Fine Gael oedd y blaid fwyaf yn etholiad cyffredinol 2011 gan ffurfio Llywodraeth âr Blaid Lafur yn yr 31 Mawrth 2011 yn yr hyn a elwir yn 31ain Dáil Éireann (senedd Gweriniaeth Iwerddon).
Sefydlwyd Fine Gael ar 3 Medi 1933 ar ôl uno ei mam-blaid Cumann na nGaedheal, y Centre Party a'r Army Comrades Association, neu'r "Blueshirts".[2] Gorwedd ei gwreiddiau yn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a'r pleidiau a fu o blaid y Cytundeb Eingl-Wyddelig yn Rhyfel Cartref Iwerddon, gan uniaethu yn enwedig â Michael Collins fel sefydlydd y mudiad[3] a'r rhai a gefnogodd sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Free State; Gwyddeleg: Saorstát Éireann).
Mae'r Fine Gael fodern yn ei disgrifio ei hun fel plaid y canol progresif, a'i gwerthoedd canolog yn seiliedig ar bolisi ariannol gofalus, hawliau a dyletswyddau'r unigolyn a'r farchnad rydd. Maent yn gadarn o blaid integreiddio yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn gwrthwynebu gweriniaetholdeb Wyddelig dreisgar. Mewn cyd-destun ehangach, mae'r blaid yn perthyn i sbectrwm y pleidiau Democratiaeth Gristnogol yn Ewrop.[4] Fine Gael yw'r unig blaid Wyddelig sy'n rhan o Blaid Pobl Ewrop (EPP) yn Strasbourg; mae ei ASEau yn eistedd yn y grwp EPP-ED. Ffurfiwyd adain ieuenctid y blaid, Young Fine Gael, ym 1977 ac mae ganddi tua 4,000 o aelodau.[5]
Daeth Enda Kenny yn arweinydd ar 5 Mehefin 2002.[6] Roedd Kenny yn Taoiseach y Weriniaeth rhwng 2011-2017. Arweinydd gyfredol Fine Gael a'r toaiseach gyfredol yw Leo Varadkar.