Fionn mac Cumhaill

Roedd Fionn mac Cumhaill, hefyd Finn neu Find mac Cumail neu mac Umaill, yn heliwr a rhyfelwr ym mytholeg Iwerddon. Ceir hanesion amdano hefyd ym mytholeg yr Alban ac Ynys Manaw. Mae'r hanesion am was Fionn a'i ddilynwyr, y Fianna, yn ffurfio'r Cylch Ffenaidd neu Fiannaidheacht, llawer ohono yn cael ei gyflwyno fel petai'r stori'n cael ei hadrodd gan fab Fionn, y bardd Oisín.

Mae Fionn neu Finn yn lysenw yn hytrach nag enw, yn cyfateb i'r enw Cymraeg "Gwyn". Ei enw pan yn blentyn oedd Deimne, ac mae nifer o hanesion yn adrodd sut y cafodd ei lysenw pan droes ei wallt yn wyn yn gynamserol. Credir fod Fionn yn cyfateb i'r cymeriad mytholegol Cymreig Gwyn ap Nudd, ac i'r duw Celtaidd cyfandirol Vindos.

Pan oedd yn ieuanc bu Fionn yn ddisgybl i'r bardd a derwydd Finn Eces neu Finnegas, ger Afon Boyne. Treuliodd Finneces saith mlynedd yn ceisio dal "eog doethineb", oedd yn byw mewn pwll yn yr afon. Byddai'r sawl a fwytai'r eog yma yn berchen ar yr holl wybodaeth yn y byd. Yn y diwedd, daliodd Finneces yr eog a gorchymynodd i Fionn ei goginio iddo. Wrth wneud, llosgodd Fionn ei fawd ar yr eog, a rhoddodd ei fawd yn ei geg, gan lyncu darn o groen yr eog, gan ddod yn berchen yr holl wybodaeth yn lle ei feistr. Mae'r hanes yma yn debyg iawn i'r stori am Ceridwen a Gwion Bach yn Hanes Taliesin.

Cymerodd y mudiad cenedlaethol chwylfroadol Y Frawdoliaeth Ffenaidd, neu'r "Ffeniaid", eu henw o'r chwedlau yma. Daw'r ffurf Albanaidd Fingal o'r fersiwn o'r stori ar ffurf cerdd epig Ossian a gyhoeddwyd gan James Macpherson yn y 18g.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne