Enghraifft o: | group of chemical entities |
---|---|
Math | cyfansoddyn organig, micronutrient, nutrient |
Y gwrthwyneb | antivitamin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfansoddyn organig yw fitamin, sydd yn angenrheidiol ar lawer o organebau byw. Fel arfer mae'r organeb yn derbyn y fitamin drwy ei ddiet ond mae rhai eithriadau megis fitamin D sy'n dod o belydrau is-goch yr haul ac yn cael ei greu yn y croen.
Dosberthir fitaminau yn ôl yr hyn maen nhw'n ei wneud (eu gweithgaredd cemegol a biolegol yn hytrach na sut maen nhw wedi cael eu creu (hy eu gwneuthuriad strwythurol).
Mae dau fath o fitaminau: y rhai sy'n hydoddi mewn dŵr a'r rhai hynny sy'n hydoddi mewn olew.