Flea | |
---|---|
Ganwyd | 16 Hydref 1962 Melbourne |
Man preswyl | Los Angeles |
Label recordio | Warner Bros. Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gitarydd bas, actor, actor ffilm, trympedwr, canwr, cerddor, actor teledu, pianydd, actor llais |
Cyflogwr | |
Arddull | roc amgen |
Priod | Frankie Rayder, Melody Ehsani |
Partner | Frankie Rayder |
Gwefan | http://www.redhotchilipeppers.com |
Mae Michael Peter Balzary (ganwyd 16 Hydref 1962), sydd yn cael ei adnabod fel Flea, yn faswr ac yn aelod o’r band roc-ffync Red Hot Chilli Peppers ers eu hymffurfiant yn 1983. Mae Flea hefyd wedi chwarae gyda bandiau megis Fear, Jane’s addiction, What is this, ac Atoms for peace.
Yn ei chwarae, mae yna elfennau o Ffync (megis bas slap), Punk, a roc seicedelig yn ei chwarae. Yn 2009, cafodd ei enwi gan Rolling Stone y baswr ail orau yn y byd, dim ond tu ôl i John Entwistle. Yn 2012 cafodd ei fand Red Hot Chilli Peppers ei urddo i'r Rock and Roll Hall of Fame.