Fodca

Fodca
Mathgwirod Edit this on Wikidata
GwladRwsia, Gwlad Pwyl, Sweden, Wcráin Edit this on Wikidata
Yn cynnwysethanol, dŵr yfed Edit this on Wikidata
Enw brodorolwódka Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Diod feddwol sy'n tarddu o Rwsia yw fodca (Rwseg: водка, vodka). Diod ddi-liw ydyw, sy'n cael ei gwneud o rawn megis rhyg a gwenith, neu datws. Caiff y ddiod ei distyllu, a weithiau gwneir hyn sawl tro.

Fel arfer mae gan fodca gynnwys alcohol o rhwng 35% a 50% yn ôl unedau cyfaint. Mae'r fodca Rwsaidd, Lithiwanaidd a Pwylaidd yn 40% (80 prawf alcohol). Gellir priodoli hyn i safonau cynhyrchu fodca Rwsiaidd a gyflwynwyd gan Alexander III ym 1894.[1] Yn ôl yr Amgueddfa Fodca ym Moscow, darganfu'r cemegwr Rwsaidd Dmitri Mendeleev (a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn datblygu'r Tabl Cyfnodol) mai'r canran perffaith o alcohol yn ei farn ef oedd 38.[2][3] Fodd bynnag, am fod gwirodydd yn cael eu trethu yn ôl canran yr alcohol a oedd ynddynt, aethpwyd a'r rhid i 40 er mwyn hwyluso'r gwaith trethu. Mae rhai llywodraethau wedi gosod lleiafswm cynnwys alcohol ar gyfer diodydd a elwir yn "fodca". Er enghraifft, dywed yr Undeb Ewropeaidd fod yn rhaid cael lleiafswm o 37.5% o alcohol yn ôl unedau cyfaint.[4]

Yn draddodiadol caiff fodca ei yfed ar ei ben ei hun yng ngwledydd Dwyrain Ewrop; deillia ei boblogrwydd mewn gwledydd eraill oherwydd ei addasrwydd ar gyfer coctêls a diodydd cymysg eraill, fel y Bloody Mary, Screwdriver, Fodca Martini neu Fodca Tonic.

  1. O waith ymchwil a wnaed gan y cemegwr Rwsaidd Dmitri Mendeleev
  2. Recipes4all.com. Adalwyd 19-09-2009
  3. Wineglobe.com Archifwyd 2009-04-26 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 19-09-2009
  4. Gwefan Britannica Adalwyd 03-04-2009

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne