Frances McDormand | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Cynthia Ann Smith ![]() 23 Mehefin 1957 ![]() Gibson City ![]() |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, actor cymeriad, actor llwyfan, actor teledu, actor llais, actor, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd ffilm ![]() |
Priod | Joel Coen ![]() |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Gwobr 'FiLM iNDEPENDENT', Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Drama Desk Award for Outstanding Actress in a Play ![]() |
Actores ffilm Americanaidd yw Frances Louise McDormand (ganwyd Cynthia Ann Smith; ganwyd 23 Mehefin 1957).
Mae McDormand wedi ennill pedair Gwobr Academi, dwy Gwobr Golden Globe Awards, tair gwobr BAFTA, dwy gwobr Emmy ac un wobr Tony.[1]
Cafodd McDormand ei geni yn Gibson City, Illinois.[2] Cafodd ei mabwysiadu gan Noreen (Nickelson) a Vernon McDormand a'i ailenwi'n Frances Louise McDormand. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Bethany ac ym Mhrifysgol Yale.
Mae hi wedi serennu yn nifer o ffilmiau'r Brodyr Coen, yn cynnwys Blood Simple (1984), Raising Arizona (1987), Fargo (1996), The Man Who Wasn't There (2001), Burn After Reading (2008), a Hail, Caesar! (2016). Am ei rôl fel Marge Gunderson yn Fargo, enillodd y Gwobr Academi am Actores Orau mewn Rhan Arweiniol. Enillodd y Wobr eto am Three Billboards Outside Ebbing, Missouri, ac eto am ei rôl yn Nomadland, yn y 93fed seremoni wobrwyo yr Academi.